Math | cymuned, tref |
---|---|
Poblogaeth | 2,870, 1,987 |
Gefeilldref/i | Pluguen |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.995°N 3.795°W |
Cod SYG | W04000514 |
Cod OS | SN763346 |
Cod post | SA20 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au | Ann Davies (Plaid Cymru) |
Tref farchnad a chymuned yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yw Llanymddyfri (Seisnigiad: Llandovery). Saif y dref ar lan Afon Tywi lle mae'r priffyrdd A40 ac A483 yn cyfarfod. Enwyd epoc, sy'n rhaniad o amser daearegol, ar ôl y dref: Epoc Llanymddyfri.
Mae Capel Coffa William Williams (Pantycelyn) yn y dref; mae ef wedi ei gladdu yn Llanfair-ar-y-bryn gerllaw. Yma hefyd mae ysgol breswyl beifat Coleg Llanymddyfri.
Cynrychiolir Llanymddyfri yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ann Davies (Plaid Cymru).[1][2]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search